Celf I gyfareddu | 1 Mawrth 2025

  /  Celf I gyfareddu | 1 Mawrth 2025

26

March

1 Mawrth 2025, 7pm

Eglwys St German, Waunadda

Here will we sit, and let the sounds of music
Creep in our ears – soft stillness and the night
Become the touches of sweet harmony
(William Shakespeare, The Merchant of Venice, 5.1.63-65)

Mae dramâu Shakespeare yn llawn cerddoriaeth, ac mae ei weithiau wedi ysbrydoli dehongliadau cerddorol fyth ers iddyn nhw gael eu creu dros 400 mlynedd yn ôl.Title page of the First Folio showing portrait of William Shakespeare

Mae Côr Poliffonig Caerdydd yn cyflwyno noson o gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan weithiau William Shakespeare. Yn cynnwys darnau gan George Shearing, Robert Pearsall ac Emma Lou Diemer, mae’r rhaglen yn arddangos gallu oesol geiriau Shakespeare i danio creadigrwydd cerddorol. Bydd y gyngerdd hefyd yn cynnwys darnau gan y cyfansoddwyr o Gymru, Richard Elfyn Jones a Mansel Thomas.

Pa un a ydych wrth eich bodd â llenyddiaeth y Dadeni, yn caru’r theatr, neu’n chwilfrydig am y cysylltiad hudol rhwng geiriau a cherddoriaeth, bydd y digwyddiad hwn yn sicr yn cyffwrdd â’r galon ac yn cipio’r dychymyg.

Fe’ch croesawn yn gynnes i ymuno â ni am yr hyn sy’n argoeli i fod yn noson gyfareddol!

Mae tocynnau ar gael gan TicketSource neu wrth y drws.


Book now

(Defnyddir y ddelwedd i hyrwyddo’r gyngerdd trwy ganiatâd caredig yr ymchwilydd lleol Michael Goodman. Daw’r ddelwedd o: Michael John Goodman, The Victorian Illustrated Shakespeare Archive [dyddiad cyrchu: 20 Ionawr 2025]. https://shakespeareillustration.org/.)

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff