We will be conducted on this occasion by Stephen Wood and accompanied by Philip Aspden.
Admission is free, and we will be holding a collection in support of Parkinson’s UK Cymru. This is a cause close to the heart of many in our choir’s community. Your donations make a huge difference and together we can contribute to Parkinson’s UK’s core missions, to find a cure and to help people to live as well as possible.
We warmly invite you to share in the joy of the season with us!
St John the Baptist, Cardiff City Centre
4pm
Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr
Ymunwch â’r Polys wrth i ni ddathlu’r Nadolig ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn 60!
Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth i gynhesu’r galon, yn cynnwys rhai o’n hoff garolau ochr yn ochr â pherlau o ganeuon llai adnabyddus. Bydd y rhaglen ddwyieithog yn rhoi cyfle i chi ymuno â ni i gydganu carolau poblogaidd – ffordd wych i chi fynd i hwyl yr Ŵyl!
Ein harweinydd y tro hwn fydd Stephen Wood a’n cyfeilydd fydd Philip Aspden.
Mae hwn yn achos sy’n agos at galon nifer yng nghymuned ein côr. Bydd eich cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth enfawr a gyda’n gilydd gallwn gyfrannu at genadaethau canolog Parkinson’s UK i ddod o hyd i iachâd a helpu pobl i fyw bywyd cystal â phosib â’r afiechyd.
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i rannu llawenydd y tymor gyda ni!