Dewisiadau’r Polys

  /    /  Dewisiadau’r Polys
A Polys Selection flyer

26

March

Cyngerdd Haf Y Polys Gorffennaf 13eg 2019

Hoff weithiau disglair corawl  aelodau’r Polys sy’n cael eu harddangos yn ein cyngerdd haf ar Orffennaf 13eg. Mae dewisiadau ein haelodau yn dathlu’r soniarus a’r cyfoeth o gerddoriaeth digyfeiliant i leisiau yn y 150 o flynyddoedd diweddar. Mae pob gwaith yn gofyn am o leiaf wyth rhanlais. Eglwys Sant German yn Nhreadda Caerdydd yw’r lleoliad delfrydol i’r cyngerdd ar Orffennaf 13eg am 7.30pm.

 

Yn ganolbwynt i’r noson mae Offeren yn E leiaf, Cantus Missae gan Joseff Rheinberger. Mae ei Abenlied yn barod yn un o ffefrynnau’r Polys. Mae’r offeren a ysgrifennwyd yn 1878 yn ein tywys i’r un byd o sain cyfoethog ac eto cynnil.

Mae dewisiadau eraill yn profi y bod ysgrifennu i leisiau yn ffynnu yn nwylo cyfansoddwyr ardderchog cyfoes. Mae The Gallant Weaver gan James MacMillan o’r Alban a’r Water Night gan Eric Whitacre o’r America yn dangos pam y mae eu cerddoriaeth wedi cynyddu yn ei boblogrwydd gyda chantorion – yn cynnwys y Polys – a chynulleidfaoedd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys dau em gan gyfansoddwyr Saesnig, Bring us, O Lord God gan William Harris a ysgrifennwyd yn 1959 i eiriau gan y bardd John Donne ac yna Take him earth, for cherishing gan Herbert Howells a ysgrifennwyd bum mlynedd yn ddiweddarach yn 1964 er cof am John F kennedy ychydig o fisoedd yn dilyn ei lofryddiaeth.

Perfformiwyd Requiem Maurice Duruflé yn ein cyngerdd diwethaf ac fe roedd y cyfansoddwr Ffrenig Pierre Villette yn ddisgybl iddo. Mae ei Hymne a la Verge yn 1967 gan Villette yn dangos dylanwad amlwg y meistr ar y gwr iau.

Mae’n addo i fod yn noson o gerddoriaeth blasus.

Tocynnau yma

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff