Requiem: Gabriel Fauré a Maurice Duruflé

  /    /  Requiem: Gabriel Fauré a Maurice Duruflé

25

March

Mae bron i drigain mlynedd yn gwahanu y ddau osodiad hyfryd o’r offeren gan gyfansoddwyr Ffrengig. Clywyd un Fauré gyntaf ym Mharis yn Eglwys Madeleine yn 1888 (blwyddyn cyn portread John Singer Sargent o Fauré uchod). Perfformiwyd Requiem Duruflé gyntaf hefyd ym Mharis yn 1947. Cyflwynwn ddau berfformiad:

Nos Sadwrn Mawrth 16eg am 7.30 pm

Eglwys Awstin Sant, Penygarth

Rydym wrth ein boddau yn cael dychwelyd i Awstin Sant. Y mae acwstig yr eglwys ac organ William Hill o 1895 yn ddelfrydol i berfformiadau gan gyfansoddwyr oedd hefyd yn organyddion enwog. Rydym wrth ein boddau hefyd y bydd David Geoffrey Thomas yn chwarae ym Mhenygarth ac yn yr ail berfformiad yn Llundain.

Archeb tocynnau

Nos Sadwrn Mawrth 23ain am 7.30 pm

Eglwys Santes Katharine Cree, Leadenhall Street, Llundain

fel rhan o Ŵyl Gorawl Brandenburg Llundain

Perfformiwn yn yr eglwys gild 1630 yng nghalon ardal gyllid Llundain. Chwaraeodd Handel a Purcell yr organ wreiddiol.

Archeb tocynnau

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff