
📍Eglwys Gadeiriol Llandaf
📆 12/12/2026
🕖 7pm
Côr Polyffonig Caerdydd a chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno’r Meseia gan Handel.
Dyw ‘Dolig ddim yn ‘Ddolig heb y Meseia gan Handel!
Wedi’i gyfansoddi mewn prin bedwar diwrnod ar hugain, mae’n draddodiad gan lawer ledled y byd i berfformio’r gwaith hwn ar adeg y Nadolig. Mae’n cynnwys nifer o’r cytganau corawl mwyaf adnabyddus a phoblogaidd a gyfansoddwyd erioed, gan gynnwys yr ‘Haleliwia’ buddugoliaethus.
Mae Côr Polyffonig Caerdydd wrth ein boddau’n cyhoeddi ein bod yn cydweithio â chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru i greu noson fythgofiadwy o gerddoriaeth.
Byddwn yn cael cwmni pedwarawd gwych o safon ryngwladol i’n helpu i gyflwyno’r stori: Rebecca Bottone, Claire Barnett-Jones, Sam Furness a Matthew Brook, oll dan arweiniad Thomas Blunt. Paratowch i ymgolli mewn noson sy’n llawn gobaith, llawenydd ac iechydwriaeth, a mwynhewch alawon dyrchafol a gorfoleddus y campwaith cerddorol eiconig hwn.