Messiah, Côr Polyffonig Caerdydd a chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru

  /    /  Messiah, Côr Polyffonig Caerdydd a chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru
Handel's Messiah Cardiff 2026 concert poster. Cardiff Polyphonic Choir and Welsh National Opera Chorus and Orchestra perform at Llandaff Cathedral on 12 December 2026 at 7pm.

22

September

📍Eglwys Gadeiriol Llandaf

📆 12/12/2026

🕖 7pm

Côr Polyffonig Caerdydd a chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno’r Meseia gan Handel.

Dyw ‘Dolig ddim yn ‘Ddolig heb y Meseia gan Handel! 

Wedi’i gyfansoddi mewn prin bedwar diwrnod ar hugain, mae’n draddodiad gan lawer ledled y byd i berfformio’r gwaith hwn ar adeg y Nadolig. Mae’n cynnwys nifer o’r cytganau corawl mwyaf adnabyddus a phoblogaidd a gyfansoddwyd erioed, gan gynnwys yr ‘Haleliwia’ buddugoliaethus.

Mae Côr Polyffonig Caerdydd wrth ein boddau’n cyhoeddi ein bod yn cydweithio â chorws a cherddorfa Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru i greu noson fythgofiadwy o gerddoriaeth.

Byddwn yn cael cwmni pedwarawd gwych o safon ryngwladol i’n helpu i gyflwyno’r stori: Rebecca Bottone, Claire Barnett-Jones, Sam Furness a Matthew Brook, oll dan arweiniad Thomas Blunt.  Paratowch i ymgolli mewn noson sy’n llawn gobaith, llawenydd ac iechydwriaeth, a mwynhewch alawon dyrchafol a gorfoleddus y campwaith cerddorol eiconig hwn.


Book now

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff