
Foto: Mary Wycherley, Two Cats In The Yard Photography
Helo a chroeso i wefan Côr Poliffonig Caerdydd.
Pan gyfarfu ugain o fyfyrwyr graddedig yng Nghaerdydd yn Hydref 1964, a oedd wedi canu gyda’u gilydd yn y brifysgol Aberystwyth, ychydig ddaru nhw feddwl y byddai Côr Polyffonig Caerdydd yn parhau i dyfu ac i ffynnu dros i hanner can mlynedd yn ddiweddarach.
Bellach y mae yna 65 o gantorion yn cael eu cyfarwyddo ers 2021 gan Thomas Blunt. Rhan amlaf byddwn yn perfformio chwe neu saith gwaith mewn blwyddyn ac yn canu mewn gwahanol fannau amrediad o raglenni – o Handel yn Neuadd Dewi Sant i Gershwin yn y Pafiliwn Penarth. Anelwn i drefnu taith dramor bob yn ail flwyddyn a buom yn canu yn Lund, Sweden yn 2017. Y mae’r ochr gymdeithasol hefyd yn bwysig ac y mae yna wastad amser i gael llymaid haeddiannol yn dilyn rihyrsal!
Byddwn yn ymarfer ar nos Iau rhwng 7 a 9pm yn Ysgol Howells Llandaf, Caerdydd. Y mae mynediad i’r côr trwy glyweliad ond fel arfer gwahoddwn ymgeiswyr newydd i’r côr i rihyrsio gyda ni am gwpwl o wythnosau i weld os ydynt yn hoffi ni yn gyntaf! Os rydych yn teimlo fel mentro y mae’r holl wybodaeth ar gael yma.
Am y newyddion diweddaraf dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter.


Messiah, Handel
O fewn pedwar diwrnod ar hugain cwta y cyfansoddodd Handel ei Messiah sydd bellach yn draddodiad Nadolig hoff gan lawer drwy’r byd yn grwn.Mae’n cynnwys cerddoriaeth gorawl gyda’r mwyaf adnabyddus a phoblogaidd a sgrifennwyd erioed, gan gynnwys yr “Hallelujah” buddugoliaethus.
Mae Côr Polyffonig Caerdydd a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno o dan faton Thomas Blunt i gyflwyno perfformiad arbennig a bythgofiadwy o gampwaith Handel.Adfywir y traethiad gan bedwar unawdydd gyda goreuon y byd: Jessica Cale (soprano), James Laing (uwchdenor), Andrew Tortise (tenor), a Gareth Brynmor John (bariton).
Dewch i ymdrochi mewn noson sy’n fyw gan themâu gobaith, gorfoledd a gwaredigaeth wrth i chi forio yn alawon dyrchafol a gorawenus y campwaith cerddorol eiconig yma.