Côr Poliffonig Caerdydd

  /  Côr Poliffonig Caerdydd

Mae hanes y Côr yn cychwyn yn 1964 pan gyfarfu ugain o fyfyrwyr graddedig yng Nghaerdydd a oedd wedi canu gyda’u gilydd o dan faton Roy Bohana yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Yna 54 o flynyddoedd yn ddiweddarach maent yn 64 mewn rhif ac yn parhau i ymhyfrydu yn ei hanes a’i enw da, bellach ers 2015 o dan gyfarwyddyd David Young.

Dros y blynyddoedd mae’r Côr wedi gweithio gyda nifer o gerddorfeydd mwyaf eu hamser – yn cynnwys Y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Cenedlaethol BBC Cymru, Baróc Llundain, Chwaraewyr Mozart Llundain a’r Hallé.  Y mae wedi canu dan faton Syr Colin Davies, Carl Davis, Syr Charles Groves, Richard Hickox, Syr Roger Norrington, Syr John Eliot Gardiner. Syr Andrew Davies, Jane Glover, Tadaaki Otaka, Paavo Berglund, James Loughran ac Eric Whitacre.  Maent hefyd wedi perfformio yn holl brif ganolfannau cerddoriaeth Llundain.   Wedi teithio i’r UD naw gwaith mae’r Côr yn parhau i fod yn lysgennad i gerddoriaeth Cymreig. Y mae teithiau hefyd i’r Eidal, Llydaw, Awstria, Yr Almaen, Canada, Yr Iseldiroedd, Denmarc a Prague yn rhoi enwogrwydd rhyngwladol i’r côr. Canwyd anthem gennym hefyd cyn y gêm rhwng Ffrainc a’r Iwerddon yn Stadiwm Y Principality yn ystod Cwpan y Byd 2015, ac ar gyfer rhaglenni Radio 4 Sunday Worship gyda chynulleidfa byw o 2 miliwn.

Ymfalchiwn fel côr i gynnal safonau cerddorol uchel a felly mae mynediad i’r côr trwy glyweliad. Serch hynny, mae ochr gymdeithasol y côr yn bwysig a chaiff aelodau newydd wastad groeso twymgalon. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno mae’r holl wybodaeth a’r gael yma.

choirweb-181
Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff