Côr cymysg gyda 65 o gantorion yw Côr Poliffonig Caerdydd. Byddwn yn ymarfer rhwng 7 a 9pm ar nos Iau yn Ysgol Howells, Llandaf, Caerdydd. (map) Yn y mwyafrif o dymhorau cawn un rihyrsal trwy’r dydd hefyd. Disgwylir i aelodau fynychu o leiaf 80% o’r ymarferion er mwyn cymeryd rhan mewn cyngerdd er cawn bythefnos i ffwrdd yn Y Nadolig a’r Pasg a’r cyfnod o ganol Gorffennaf hyd at gychwyn Medi.
Croesäwn darpar gantorion newydd pob amser a fel arfer gwahoddwn hwy i ymarfer gyda ni am rhyw bythefnos cyn cael clyweliad byr gyda’r cyfarwyddwr cerdd, David Young. Os oes gennych unrhyw brofiad o ganu corawl, darllen ar yr olwg cyntaf a diddordeb i ymuno gyda ni anfonwch e-bost i’r Ysgrifenyddes Aelodaeth, Heather Jones.