Messiah, Handel

  /    /    /  Messiah, Handel

20

July

Dydd Sadwrn, 7pm. Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

O fewn pedwar diwrnod ar hugain cwta y cyfansoddodd Handel ei Messiah sydd bellach yn draddodiad Nadolig hoff gan lawer drwy’r byd yn grwn.Mae’n cynnwys cerddoriaeth gorawl gyda’r mwyaf adnabyddus a phoblogaidd a sgrifennwyd erioed, gan gynnwys yr “Hallelujah” buddugoliaethus.

Mae Côr Polyffonig Caerdydd a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno o dan faton Thomas Blunt i gyflwyno perfformiad arbennig a bythgofiadwy o gampwaith Handel. Adfywir y traethiad gan bedwar unawdydd gyda goreuon y byd: Jessica Cale (soprano), James Laing (uwchdenor), Andrew Tortise (tenor), a Gareth Brynmor John (bariton).

Dewch i ymdrochi mewn noson sy’n fyw gan themâu gobaith, gorfoledd a gwaredigaeth wrth i chi forio yn alawon dyrchafol a gorawenus y campwaith cerddorol eiconig yma.

 

Tocynnau ar gael o Neuadd Dewi Sant: https://www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk/beth-sydd-ymlaen/cerddorfa-a-chorawl/handel-messiah/

Web Design Cardiff
The Web Designer Group Cardiff Logo

Close Button

Web Design Cardiff

The Web Designer Group Cardiff