7pm, Dydd Sadwrn 1 Gorffenaf
Eglwys San German, Adamsdown
Arweinydd Thomas Blunt
Organydd Carleton Etherington
Mae’n bleser gennym gyflwyno cyngerdd haf yn llawn anthemau corawl sy’n gyfoethog eu treftadaeth. Ymunwch â ni i ddathlu etifeddiaeth barhaus y traddodiad corawl yng ngwledydd Prydain, gydag amrywiaeth o weithiau gan gyfansoddwyr o’r ynysoedd hyn.
Canolbwynt ein cyngerdd yw gwaith Benjamin Britten, Rejoice in the Lamb, sy’n osodiad o gerdd eithriadol Christopher Smart, Jubilate Agno. Fe’i hysgrifennwyd pan oedd Smart yn glaf mewn ysbyty seiciatryddol ac mae’r gerdd yn portreadu poen ingol, unigrwydd, ffraethineb, digrifwch ac yn y pen draw, gobaith. Mae dehongliad Britten yn cyfleu’r emosiynau hyn a mwy. Mae’n anthem oesol sy’n rhyfeddu at harddwch y byd naturiol ac yn cynnig gobaith ynghanol y duwch a’r anhrefn.
Mae’r gyngerdd hefyd yn cynnwys gweithiau gan ddwy gyfansoddwraig. Mae God be in my head gan Judith Bingham yn anthem ogoneddus sy’n arddangos harmonïau corawl cywrain. Cariad ac aberth yw themâu Crux Fidelis gan Sarah MacDonald, ac mae ynddo gynghanedd gyfoethog ac alawon sy’n cyrraedd yr uchelfannau.
Rydym wrth ein bodd ein bod yn cyflwyno The Souls of the Righteous gan Geraint Lewis. Fel cyfansoddwr o Gaerdydd, mae ei gerddoriaeth yn agos at ein calonnau a bydd y perfformiad hwn yn deyrnged deimladwy i’r traddodiad corawl cryf yng Nghymru.
Rydym yn gobeithio y bydd ein perfformiad o’r anthemau hyn ac eraill yn eich cyffwrdd ac y cewch eich ysbrydoli gan ogoniant canu corawl.
Edward Elgar, Great is the Lord
Jonathan Dove, Ecce Beatam Lucem
Geraint Lewis, The Souls of the Righteous
John Ireland, Greater Love
Gustav Holst, Nunc Dimittis
Judith Bingham, God be in my head
Gerald Finzi, Lo, the full, final sacrifice
Sarah Macdonald, Crux Fidelis
Benjamin Britten, Rejoice in the Lamb