Dechreuwn y dathliadau ar gyfer ein pen-blwydd yn 60 oed gyda chyngerdd syfrdanol yn yr eglwys gadeiriol enwog yn Llandaf.
Bydd y noson yn agor gyda thri o weithiau Marïaidd cyferbyniol ond cyflenwol: Gosodiad gogoneddus Durante o’r Magnificat (a briodolwyd gynt i Pergolesi), Ave Verum gan Colin Mawby, a Litanies à la Vierge Noire ragorol Poulenc. Yn dilyn y rhain y bydd Requiem oesol Mozart.
Rydym wrth ein bodd yn croesawu pedwar unawdydd o safon ryngwladol: Jessica Cale, Rebecca Afonwy-Jones, Joshua Owen Mills, a Dan D’Souza. Ar gyfer yr achlysur arbennig hwn, byddwn yn cydweithio â’r British Sinfonietta o dan arweiniad Thomas Blunt.
Mae hon yn argoeli i fod yn noson gofiadwy i bawb, ac yn un arbennig o deimladwy i gyn-aelodau ac aelodau presennol Côr Polyffonig Caerdydd a’i ffrindiau niferus. Gydag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn cynnal bar, gobeithiwn y gallwch ymuno â ni am noson wych o gerddoriaeth ac atgofion wrth inni gynnig llwncdestun i’r garreg filltir arbennig hon.